Newyddion

Cwpan y Byd Menywod yn dod i Gymru

Girl's football team

Bydd Cwpan y Byd Menywod FIFA yn 2035 yn gyfle hanesyddol i hyrwyddo Cymru i'r byd, ac yn hwb i chwaraeon menywod ledled y wlad, meddai'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan.

Croesawodd y Gweinidog y cyhoeddiad heddiw (23 Tachwedd 2026) yn Zurich y bydd y DU yn cynnal y digwyddiad hwn, gyda'r FA, Cymdeithas Pêl-droed Iwerddon, Cymdeithas Pêl-droed yr Alban a Chymdeithas Bel Droed Cymru yn ei gynnal.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal ar draws holl wledydd y DU, gyda thair darpar stadiwm groeso yng Nghymru sef, Cae Ras Wrecsam, Stadiwm y Principality Caerdydd a Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd y gystadleuaeth yn un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf erioed i’w gynnal yn y DU. Hwn fydd y tro cyntaf i Gwpan y Byd FIFA ™ gael ei gynnal yn y wlad ers 1966.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Cwpan y Byd Menywod yn dod i Gymru | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.