Newyddion

Cwmni gwasanaethau TG sy'n canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial i ehangu a chreu swyddi

IT

Mae cwmni gwasanaethau TG ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n harneisio pŵer deallusrwydd artiffisial (AI) yn ehangu ac yn creu swyddi gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Bydd ITCS yn sefydlu pencadlys newydd yng Nghymru, gan ddyblu ei gapasiti presennol wrth iddo fynd ar drywydd cyfleoedd twf uchelgeisiol.

Bydd cyllid Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru gwerth £350,000 yn diogelu swyddi yn y busnes ac yn creu 60 o swyddi eraill erbyn 2028.

Wedi'i sefydlu yn 2004, mae ITCS yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu sefydliadau i sbarduno cynhyrchiant trwy awtomeiddio tasgau arferol, gwella prosesau gwneud penderfyniadau, a chyflymu trawsnewidiad digidol.

Bydd ei bencadlys newydd wedi'i leoli yn Ystad Ddiwydiannol Waterton a bydd yn cynnwys gofod swyddfa uwch-dechnoleg, a chanolfan weithrediadau seiberddiogelwch.

Bydd hefyd yn cynnwys cyfleuster hyfforddi o'r radd flaenaf, ac mae'r cwmni'n bwriadu gweithio gydag ysgolion a cholegau i annog myfyrwyr i ymwneud â maes TG a Seiberddiogelwch. Ochr yn ochr â hyn, bydd yn cynnig cyfleoedd TG i oedolion sy'n dymuno uwchsgilio.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Cwmni gwasanaethau TG sy'n canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial i ehangu a chreu swyddi | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.