Newyddion

CThEF yn cynnig amser i helpu i dalu eich bil treth

Calculator on a desk

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn atgoffa cwsmeriaid Hunanasesu bod cymorth ar gael i reoli eu bil treth.

Y dyddiad cau i ffeilio a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus yw 31 Ionawr 2026, ond efallai y bydd pobl sydd ddim yn gallu talu'n llawn erbyn hynny yn gallu sefydlu trefniant Amser i Dalu ar-lein a gwasgaru'r gost dros randaliadau misol. Yn well fyth, i'r rhai sydd â biliau o hyd at £30,000, gellir sefydlu trefniant o'r fath heb hyd yn oed orfod cysylltu â CThEF yn uniongyrchol.

Ni ellir sefydlu trefniant Amser i Dalu nes bod ffurflen Hunanasesiad wedi'i chyflwyno. Os yw'r dreth sy'n ddyledus yn fwy na £30,000, neu os oes angen cyfnod ad-dalu hirach, gall pobl wneud cais o hyd ond bydd angen iddynt gysylltu â CThEF yn uniongyrchol.

Mae yna lawer o ffyrdd o dalu bil Hunanasesu, gan gynnwys ap rhad ac am ddim a diogel CThEF neu ar-lein ar GOV.UK. Mae rhestr lawn o'r opsiynau talu ar gael ar GOV.UK.

Mae cymorth a chefnogaeth ar-lein, gan gynnwys fideos YouTube sy'n esbonio sut i dalu bil treth, ar gael i unrhyw un sy'n cwblhau eu ffurflen dreth, gan gynnwys y rhai sy'n ffeilio am y tro cyntaf.

Gellir gwneud taliadau Hunanasesu ac Asesiad Syml yn llawn neu mewn rhandaliadau erbyn y dyddiad cau.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: HMRC offers time to help pay your tax bill - GOV.UK.

Mae pobl yn cael eu hatgoffa i gadw'n ddiogel rhag sgamiau. Mae troseddwyr yn defnyddio e-byst, galwadau ffôn, a negeseuon testun i geisio dwyn gwybodaeth ac arian gan drethdalwyr. Canllaw CThEF ar sgamiau treth yw gwirio bob amser cyn rhannu manylion personol neu ariannol a pheidiwch byth â rhannu gwybodaeth mewngofnodi CThEF ag unrhyw un.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.