Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog pobl sy’n cael llythyr Asesiad Syml yr haf hwn i beidio â’i anwybyddu, ac i wirio’r manylion a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus.
Bob blwyddyn mae CThEF yn ysgrifennu at bobl sydd angen talu treth ar incwm nad yw wedi’i chasglu drwy TWE neu Hunanasesiad.
Mae’r llythyrau – ‘PA302’ yn swyddogol - yn nodi union swm y dreth sydd arnoch chi a pham.
Efallai y bydd cwsmeriaid yn cael llythyr ar gyfer cyfrifo treth Asesiad Syml os oes ganddynt dreth i’w thalu, a bod CThEF methu â’i chasglu’n awtomatig, er enghraifft:
- mae treth i’w thalu ar log ar gynilion neu ddifidendau
- nid yw ail incwm wedi’i drethu
- mae treth yn ddyledus ar incwm pensiwn
- cwsmeriaid a gafodd fwy o lwfans rhydd o dreth na’r hyn yr oedd hawl ganddynt i’w gael
- methu â chasglu’r dreth drwy gôd treth (er enghraifft symiau mawr sy’n ddyledus, fel arfer £3,000 neu fwy)
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: CThEF yn annog cwsmeriaid i beidio ag anwybyddu llythyrau Asesiad Syml - GOV.UK.