
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Ebrill o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- cyfraddau newydd o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2025
- newidiadau i hysbysiadau gan gyflogwyr i weithredu TWE (Talu Wrth Ennill) ar gyfran o incwm cyflogai sy’n symud yn fyd-eang a newidiadau i Ryddhad Diwrnod Gwaith Dramor
- triniaeth dreth cerbydau cab dwbl
- Treth Enillion Cyfalaf – cyfrifo’ch addasiad ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Rhifyn mis Ebrill 2025 o Fwletin y Cyflogwr - GOV.UK