Newyddion

Cronfa Ynni Glân yn cael y golau gwyrdd gan Uchelgais Gogledd Cymru

Wind turbines and solar panels

Bydd Gogledd Cymru yn adeiladu ar ei chryfder fel arweinydd ym maes ynni carbon isel, wedi i'r achos busnes llawn ar gyfer Cronfa Ynni Glân y rhanbarth, sy’n werth £24.6 miliwn gael ei gymeradwyo’n ddiweddar.

Bydd y gronfa, sy'n rhan o raglen Ynni Carbon Isel Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn cynnig arian dyled gyfalaf yn bennaf i brosiectau'r sector preifat gyda chyllid cyfalaf grant/dyled ar gael i brosiectau'r sector gwirfoddol sy'n canolbwyntio ar ynni glân. Bydd gan y gronfa yr hyblygrwydd i ystyried buddsoddiadau mewn sectorau eraill a thrwy fecanweithiau cyllido eraill lle mae prosiectau'n cyd-fynd yn glir ag amcanion y gronfa. Disgwylir y bydd y gronfa yn cynhyrchu £100 miliwn mewn buddsoddiad rhanbarthol, yn creu dros 150 o swyddi newydd, yn lleihau cyfwerth â charbon deuocsid hyd at 125,000 tunnell, ac yn cefnogi perchnogaeth leol.

Bydd y buddsoddiad yn cefnogi ystod o dechnolegau a gweithgareddau, gan gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy, prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ôl-ffitio, systemau ynni clyfar, a gweithgynhyrchu ynni glân. 

Bydd y gronfa, sydd i'w lansio ym mis Gorffennaf, ar agor ar gyfer ceisiadau dros gyfnod cychwynnol o bum mlynedd, gyda'r potensial i ymestyn i 2035 yn dibynnu ar ddefnydd a pherfformiad. Rhaid i brosiectau fod ar waith o fewn 36 mis ar ôl derbyn buddsoddiad, a bydd angen i ymgeiswyr ddarparu cyllid cyfatebol. Trwy ddatgloi buddsoddiad, bydd y gronfa yn cyflymu'r cynnydd tuag at dargedau sero net i Gymru a'r DU.

I gael rhagor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen ganlynol:Uchelgais Gogledd Cymru | Pweru'r dyfodol – Cronfa Ynni Glân yn cael y golau gwyrdd gan Uchelgais Gogledd Cymru

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r mannau o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw ar Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.