Newyddion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru

Wind turbines and solar panels

Datgloi Cyllid ar gyfer Eich Prosiect Ynni Glân - Buddsoddwch mewn prosiectau ynni glân a datgarboneiddio i ostwng costau, gwella effeithlonrwydd a datgloi cyfleoedd newydd.

Nod y Gronfa Ynni Glân gwerth £24.6 miliwn, yw i gefnogi prosiectau ynni glân yn y Gogledd. Mi fydd yn grymuso busnesau a sefydliadau gwirfoddol i greu dyfodol cynaliadwy, cyflawni buddsoddiad o £100 miliwn yn y rhanbarth, creu 150 o swyddi newydd, a thorri hyd at cyfwerth 125,000 tunnell o garbon deuocsid (CO2e).

Mae'r gronfa'n cynnwys dwy is-gronfa ar wahân, sy'n targedu'r sectorau preifat a gwirfoddol.

Gwahoddir ceisiadau gan y sefydliadau canlynol ar gyfer prosiectau sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru:

  • Busnesau neu sefydliadau sector preifat sy'n gweithredu yn y rhanbarth
  • Sefydliadau gwirfoddol, elusennau, a phrosiectau dan arweiniad y gymuned
  • Sefydliadau eraill sydd wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni

Ar gyfer beth y gellir ei ddefnyddio?

  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy a seilwaith
  • Datrysiadau ynni clyfar gan gynnwys storio
  • Effeithlonrwydd ynni, datgarboneiddio ac ôl-ffitio
  • Cyfleoedd gweithgynhyrchu a chadwyn gyflenwi

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Uchelgais Gogledd Cymru | Cronfa Ynni Glân


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.