Newyddion

Cronfa Twf Diwydiannol

Wind turbine - off shore

Mae'r Offshore Wind Growth Partnership (OWGP) wedi lansio ei rhaglen fwyaf uchelgeisiol hyd yma.

Mae’n cynnig cyllid o £300,000 i £25 miliwn fesul prosiect cadwyn gyflenwi, i gefnogi blaenoriaethau buddsoddi a nodir yn y Cynllun Twf Diwydiannol. Daw'r cyllid ar gyfer y rhaglen hon gan aelodau datblygwyr yr Offshore Wind Industry Council (OWIC) trwy eu Cronfa Twf Diwydiannol.

Mae'r Gronfa Twf Diwydiannol wedi'i chynllunio i gyflymu buddsoddiad cyfalaf mewn gweithgynhyrchu domestig cydrannau, systemau a gwasanaethau allweddol i'r sector ynni gwynt ar y môr.

Ers 2019, mae cyllid gan OWIC, cynghrair rhwng y llywodraeth a’r diwydiant, wedi cefnogi dros 387 o brosiectau effaith uchel sydd wedi cryfhau capasiti a gallu cadwyn gyflenwi gwynt ar y môr yn y DU. Mae'r Gronfa Twf Diwydiannol yn cynrychioli cyfnod newydd, mwy o gyllid, a bydd yn cefnogi sefydliadau sy'n ceisio ehangu neu adeiladu cyfleusterau newydd. Mae blaenoriaethau'r Cynllun Twf Diwydiannol y bydd y cyllid yn eu cefnogi’n cynnwys gweithgynhyrchu llafnau tyrbinau, ceblau a sylfeini, yn ogystal â thechnoleg arloesol mewn gwasanaethau amgylcheddol.

Mae cwmnïau yn y DU sydd â bwriad profedig i gyflenwi'r sector ynni gwynt ar y môr, gan gynnwys cyflenwyr ynni gwynt ar y môr presennol, cwmnïau o sectorau cyfagos a chwmnïau newydd â galluoedd trosglwyddadwy yn gymwys i wneud cais.

Ymunwch â'r weminar 'The Industrial Growth Fund: Explained' ar gyfer cwmnïau cadwyn gyflenwi’r DU sy'n ceisio ehangu yn y sector gwynt ar y môr, ar 14 Tachwedd 2025 am 10am.

Bydd ceisiadau ar gyfer y Gronfa Twf Diwydiannol yn cau ddydd Gwener 12 Rhagfyr am 5pm.

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i Industrial Growth Fund - Offshore Wind Growth Partnership.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.