
Gwnewch gais i gronfa’r Grant Sgyrsiau am yr Hinsawdd i gynnal eich digwyddiad cymunedol eich hun yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru neu ar ôl hynny.
Grant gan Lywodraeth Cymru yw'r gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd.
Gall mudiadau sydd â chysylltiadau â chymunedau wneud cais am gyllid i gynnal digwyddiadau lleol. Nod y gronfa yw casglu tystiolaeth a syniadau gan y cyhoedd. Bydd yr wybodaeth hon wedyn yn llywio proses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru am y newid yn yr hinsawdd.
Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ateb cyfres o gwestiynau penodol gyda chyfranogwyr. Bydd y rhain yn gysylltiedig ag un neu fwy o'r pynciau canlynol:
- Tai
- Trafnidiaeth
- Amaethyddiaeth a defnydd tir
Mae'r Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd yn agored i sefydliadau sydd â chysylltiadau â chymunedau ac aelodau o'r cyhoedd ledled Cymru. Rhoddir blaenoriaeth i ddigwyddiadau sy'n ymgysylltu â grwpiau a ymyleiddiwyd, gan gynnwys y canlynol:
- Lleiafrifoedd ethnig a mudwyr
- Unigolion sy'n rhan o'r gymuned LHDTCRhA+
- Pobl anabl
- Pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol
- Plant a phobl ifanc
- Pobl hŷn
- Ffermwyr a grwpiau gwledig
- Cymunedau economaidd-gymdeithasol is
- Cymunedau Cymraeg
- Pobl mewn sefyllfaoedd byw ansefydlog
Rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau sydd â chysylltiadau cymunedol cryf a phobl sydd wedi cael profiadau uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Sefydliadau llywodraeth leol, e.e. awdurdodau lleol a chynghorau tref
- Sefydliadau nid-er-elw yn y trydydd sector fel grwpiau amgylcheddol ac elusennau
- Sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau a ymyleiddiwyd
- Darparwyr addysg, gan gynnwys colegau a phrifysgolion
- Rhwydweithiau busnes
Dylech gynnal eich digwyddiad rhwng dydd Llun 17 Tachwedd 2025 a dydd Gwener 27 Chwefror 2026.
Mae ceisiadau sy’n cael eu gwneud at ddibenion masnachol, neu geisiadau gan ddylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol wedi’u heithrio o’r gronfa.
Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor nawr a bydd yn cau ddydd Llun 20 Hydref 2025: Cronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd - Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.