Newyddion

Cronfa Rhwydweithiau Natur Rownd 6

Spring evening light on Thrift 'Sea Pinks' in Ceibwr Bay, Pembroke, Wales

Nod y gronfa hon, sy'n dyfarnu grantiau rhwng £250,000 ac £1miliwn, yw cryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir, dŵr croyw a morol gwarchodedig, ac adeiladu gallu sefydliadau i gyflymu adferiad byd natur ac ymgysylltu â chymunedau.

Ai hon yw'r rhaglen iawn i chi?

  • Ydych chi'n sefydliad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru? 
  • A oes angen ariannu arnoch i gynllunio neu gyflwyno prosiect sy'n seiliedig ar fyd natur? 
  • A yw eich prosiect yn canolbwyntio ar wella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yng Nghymru o fewn ac o amgylch y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig? 
  • A oes angen grant rhwng £250,000 ac £1m arnoch? 
  • Os gwnaethoch chi ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau hyn, yna mae Cronfa Rhwydweithiau Natur yn addas i chi.

Amserlen ymgeisio a dyddiadau allweddol

  • Terfyn amser ar gyfer Mynegiadau o Ddiddordeb: 12 hanner dydd ar 5 Awst 2026
  • Terfyn amser ymgeisio: 12 hanner dydd ar 3 Tachwedd 2026
  • Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud Chwefror 2027
  • Dyddiad cwblhau eich prosiect: 31 Mawrth 2030

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd chwech) | Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.