Newyddion

Cronfa Ranbarthol i Bobl Greadigol

Film scene - camera and director

Trwy ei gronfa ranbarthol newydd i bobl greadigol (Regional Creatives Fund), bydd Amazon yn helpu elusennau i greu llwybrau i yrfaoedd creadigol.

Mae Amazon yn agor drysau newydd i yrfaoedd creadigol ledled y DU gyda lansiad ei gronfa ranbarthol i bobl greadigol, sy'n cynnig grantiau o hyd at £30,000 i elusennau sy'n helpu cymunedau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol i ddilyn eu huchelgeisiau creadigol.

Bydd y gronfa ar gael i elusennau sy'n cefnogi unigolion i fynd mewn i’r byd cyhoeddi, cerddoriaeth, gemau, ffilm, teledu, ffasiwn, hysbysebu, a sectorau creadigol eraill lle gall amrywiaeth a safbwyntiau newydd gefnogi arloesedd a newid.

Yn ogystal â chymorth ariannol, bydd y gronfa ranbarthol i bobl greadigol hefyd yn defnyddio rhwydwaith Amazon o weithwyr proffesiynol y diwydiant creadigol i gynnig rhaglenni uwchsgilio yn rhad ac am ddim i elusennau - gan gynnwys mentora, profiad gwaith, cyfleoedd lleoli, a hyfforddiant digidol.

Mae'r gronfa ar gael ar gyfer ceisiadau gan elusennau sydd ar hyn o bryd yn rhedeg rhaglen sy'n canolbwyntio ar uwchsgilio pobl o gymunedau heb eu gwasanaethu’n ddigonol ar gyfer gyrfaoedd mewn diwydiannau creadigol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: Amazon’s Regional Creatives Fund UK: £30,000 grants to boost career opportunities.

O gyllid ac adnoddau i gefnogaeth ac arweiniad, mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i helpu ein diwydiannau creadigol i ffynnu. Dewch o hyd i’r cyfleoedd sydd ar gael i chi: Ariannu a Chefnogaeth| Creadigol | Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.