Newyddion

Cronfa Haf 2025 – The Fore

Community group wearing yellow t-shirts

Mae The Fore yn helpu’r elusennau bach hynny sy'n cael effaith fawr, a gallant gynnig cyllid digyfyngiad o hyd at £30,000 i helpu ymgeiswyr i ehangu, i gryfhau, ac i ddod yn fwy effeithlon neu gydnerth.

Mae'r rhaglen grantiau ar agor i:

  • Elusennau Cofrestredig (gan gynnwys ymddiriedolaethau elusennol, cymdeithasau anghorfforedig elusennol, sefydliadau corfforedig elusennol, a chwmnïau elusennol cyfyngedig drwy warant)
  • Sefydliadau Corfforedig Elusennol
  • Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CIC) cyfyngedig drwy warant, neu Gymdeithasau Buddiant Cymunedol

Bydd y cyfnod cofrestru yn para wythnos, o 12pm (hanner dydd) Ddydd Iau 27 Mawrth tan 12pm (hanner dydd) Ddydd Iau 3 Ebrill 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Apply for funding - The Fore


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.