Newyddion

Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru 2026

community garden

Grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer prosiectau sydd ag amcanion iechyd, lles, cymorth costau byw ac/neu amgylcheddol sydd o fudd i'r gymuned.

Rhoddir blaenoriaeth i'r prosiectau hynny lle mae Dŵr Cymru yn gweithio (neu wedi bod yn gweithio).

Sut i wneud cais: dyma ddyddiadau ar gyfer y panel gan gynnwys dyddiad cyflwyno cais a dyddiad y dylech ddisgwyl clywed y canlyniad.

  • 1 Ionawr 2026 i 28 Chwefror 2026
  • 1 Mai 2026 i 30 Mehefin 2026
  • 1 Medi 2026 i 31 Hydref 2026

Bydd y panel cymunedol yn cyfarfod i benderfynu ar brosiectau llwyddiannus o fewn pythefnos ar ôl y dyddiad cau a bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am y canlyniad erbyn diwedd y mis ar ôl i’r holl ddogfennau perthnasol gael eu derbyn a’u trefnu.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch y ddolen ganlynol: Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru | Dŵr Cymru Welsh Water


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.