
Grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer prosiectau sydd ag amcanion iechyd, lles, cymorth costau byw ac/neu amgylcheddol sydd o fudd i'r gymuned. Rhoddir blaenoriaeth i'r prosiectau hynny lle mae Dŵr Cymru yn gweithio (neu wedi bod yn gweithio).
Sut i wneud cais: dyma ddyddiadau ar gyfer y panel gan gynnwys dyddiad cyflwyno cais a dyddiad y dylech ddisgwyl clywed y canlyniad.
- 1 Ionawr 2025 i 28 Chwefror 2025
- 1 Mai 2025 i 30 Mehefin 2025
- 1 Medi 2025 i 31 Hydref 2025
Bydd y panel cymunedol yn cyfarfod i benderfynu ar brosiectau llwyddiannus o fewn pythefnos ar ôl y dyddiad cau a bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am y canlyniad erbyn diwedd y mis ar ôl i’r holl ddogfennau perthnasol gael eu derbyn a’u trefnu.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch y ddolen ganlynol: Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru | Dŵr Cymru Welsh Water