
Mae'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant wedi lansio cronfa gwerth £1 miliwn i ddathlu camp hanesyddol tîm cenedlaethol y merched i gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth yr Ewros yn y Swistir yr haf hwn.
Mae twrnamaint Ewro 2025 eleni yn gyfle delfrydol i dynnu sylw at yr holl fwrlwm sydd ynghlwm wrth y gêm i ferched a menywod yng Nghymru. Nod Llywodraeth Cymru, gyda'i phartneriaid ehangach, yw sicrhau ein bod yn adeiladu gwaddol o'r twrnamaint a fydd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o'n bechgyn a'n merched ac yn sbarduno cynnydd o ran y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i gefnogi iechyd a llesiant ein cenedl.
Bydd Cronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 yn cefnogi gwahanol sefydliadau o'r sectorau diwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a'r cyfryngau ar gyfer gweithgareddau i ddathlu lle Cymru mewn twrnamaint ar gyfer yr 16 tîm gorau yn Ewrop. Gallai hyn gynnwys gweithgareddau i hyrwyddo Cymru'n rhyngwladol, cyflwyno digwyddiadau i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn chwaraeon, neu helpu cefnogwyr i ddathlu'r gemau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Bydd y broses ymgeisio yn cael ei rheoli mewn dau gam. Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw 1pm ddydd Gwener, 7 Mawrth 2025. Bydd yr ymgeiswyr ar restr fer y cam cyntaf yn cael eu gwahodd i'r ail gam, lle bydd gofyn iddynt gyflwyno cais a fydd yn cynnwys yr holl gostau erbyn 4 Ebrill 2025.
I gael mwy o fanylion am y gronfa a chais mynegi diddordeb anfonwch e-bost at EWRO25@llyw.cymru
Am ragor o wybodaeth dewisiwch y ddolen ganlynol: Cronfa gwerth £1 miliwn yn agor i ddathlu Menywod Cymru yn Ewros 2025 | LLYW.CYMRU