
Bydd UKRI (UK Research and Investment) yn gweithio gydag arbenigwyr lleol i dyfu economïau, swyddi a sgiliau lleol, gan wella bywydau ar draws y DU.
Bydd y Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol yn darparu hyd at £500 miliwn o gyllid i'r rhai sy'n adnabod eu cymuned orau weithio mewn partneriaeth ag:
- awdurdodau lleol
- busnesau lleol
- ymchwilwyr ac arloeswyr lleol
Mae’r gronfa wedi’i chynllunio i ddenu buddsoddiad ychwanegol o £1 biliwn, gan gynnwys o'r sector preifat, a £700 miliwn o werth ychwanegol i economïau lleol.
Bydd y gronfa’n buddsoddi mewn cryfderau lleol, gan gynnwys y rhai yn y strategaeth ddiwydiannol, a allai gynnwys seiberddiogelwch yng Ngogledd Iwerddon, lled-ddargludyddion yng Nghymru neu dechnoleg gofal iechyd dan arweiniad deallusrwydd artiffisial yn Birmingham.
Bydd UKRI yn cyhoeddi rhagor o fanylion maes o law: New fund will focus research investment on local priorities – UKRI