Sicrhewch hwb o £20,000 i'ch busnes.
Mae Reed wedi lansio cronfa entrepreneuriaid ‘All About Business' a'r dyddiad cau i wneud cais yw 7 Gorffennaf 2026.
Bydd y gronfa’n cefnogi o leiaf dri entrepreneur ifanc ym mlwyddyn un gyda £20,000 yr un, ynghyd â mentora arbenigol, i helpu i ehangu eu busnes, goresgyn heriau a chyflymu twf.
Rhaid i chi fodloni'r holl feini prawf canlynol:
- 18–26 oed ar adeg y cais
- Preswylydd yn y DU sydd â'r hawl i weithio yn y DU
- Busnes presennol yn masnachu ers llai na thair blynedd
- O leiaf un cwsmer sy'n talu ar adeg gwneud y cais
- Cyfrif banc busnes yn y DU
- Yn gallu bodloni'r telerau llawn a amlinellir yn y pecyn cais
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Stop dreaming. Start building.
Os ydych chi'n 25 oed neu'n iau yng Nghymru, beth am gael ysbrydoliaeth gan entrepreneuriaid sydd wedi llwyddo, a gwireddu eich syniad gyda chyngor, gweithdai a chefnogaeth? Gallai eich syniad fod y llwyddiant mawr nesaf! Rydyn ni yma i helpu: Syniadau Mawr Cymru | Syniadau Mawr Cymru.