Newyddion

Cronfa Cymru Actif

tennis player

Mae Cronfa Cymru Actif yn grant sy’n cael ei gefnogi gan y Loteri Genedlaethol. Mae’n cyllido clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol nid-er-elw ledled Cymru. Gallwch wneud cais am grantiau rhwng £300 a £50,000 i gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Gall Cronfa Cymru Actif gefnogi pethau fel:

  • Offer i helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon
  • Cyrsiau hyfforddi (hyd at lefel 2) sy'n uwchsgilio hyfforddwyr a gwirfoddolwyr
  • Cyrsiau hyfforddi lefel mynediad, fel Cymorth Cyntaf neu Ddyfarnu.
  • Llogi lleoliad ar gyfer timau newydd yn unig (am uchafswm o ddeg wythnos)
  • Prosiectau gwella caeau

Dyddiad cau Datgan Diddordeb: Dydd Gwener 9 Ionawr 2026 (9am).

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cronfa Cymru Actif | Chwaraeon Cymru.

Gall darganfod ble i fynd i ganfod cyllid a dewis y math cywir fod yn anodd. Mae’n adnodd cyllid yma i helpu: Canfod Cyllid | Drupal.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.