
Mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru wedi buddsoddi dros £18 miliwn ym musnesau bychain Cymru ers iddo gael ei sefydlu ddiwedd 2023.
Cyrhaeddwyd y garreg filltir hon bron i ddeunaw mis ers i’r gronfa gael ei lansio, yn sgil 71 buddsoddiad mewn 67 o fusnesau o bob cwr o Gymru, ac mae’n cynnwys £3 miliwn ychwanegol o gyd-fuddsoddiad sector preifat a godwyd o ganlyniad i gefnogaeth y Gronfa.
Lansiwyd y gronfa £130 miliwn gan y British Business Bank ym mis Tachwedd 2023, a’r nod oedd annog twf economaidd cynaliadwy trwy gefnogi busnesau newydd a busnesau sy’n ehangu ar draws Cymru gyfan.
Dyma rai o’r busnesau Cymreig sydd wedi elwa o’r Gronfa yn ddiweddar: SudoCyber, cwmni o Aberhonddu sy’n cynnal platfform dysgu seiberddiogelwch, a gafodd fuddsoddiad ecwiti o £1 miliwn; Nisien.AI, cwmni AI newydd a blaengar o Gaerdydd, a gafodd fuddsoddiad ecwiti sylweddol; ynghyd â nifer o gytundebau dyled, gan gynnwys: buddsoddiad o £100,000 i Ganolfan Chwarae Sgiliau, sydd wedi’i lleoli yn y gorllewin, agor safle newydd yn Llanelli; a £100,000 i’r gwneuthurwyr lapio cacennau yn Hirwaun, Chevler, sef prif gynhyrchwyr pecynnau ar gyfer pobwyr a gwerthwyr cacennau yn y DU.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Press release - 17 June, 2025 | British Business Bank ac Investment Fund for Wales | British Business Bank
Gall fod yn anodd gwybod ble i gael cyllid a pha fath i’w ddewis.
Mae ein hadran gyllid yma i’ch helpu. Defnyddiwch ein teclyn canfod cyllid i ddod o hyd i opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes, darllen canllawiau sy'n egluro'r gwahanol fathau o gyllid, dod o hyd i wybodaeth am weithio gyda chyfrifwyr, a darllen am Fanc Datblygu Cymru, benthyciwr unigryw i fusnesau yng Nghymru: Canfod Cyllid | Busnes Cymru