Mae Airbnb yn lansio'r gronfa Best of British gwerth £1 miliwn, i helpu i gefnogi'r arosiadau, y profiadau a'r atyniadau sy'n gwneud Prydain yn wych.
Felly os ydych chi'n gwybod am gartref hanesyddol, arhosiad anarferol, gŵyl leol, antur awyr agored ryfeddol neu'r lle gorau i gael pryd o fwyd ardderchog – gwnewch gais heddiw!
Dylai prosiectau cymwys fod yn perthyn i o leiaf un o'r categorïau canlynol a rhaid iddynt fod wedi'u lleoli yn y DU:
- Natur ac Awyr Agored
- Bwyd a Bwyta
- Cerddoriaeth a'r Celfyddydau
- Diwylliant a Threftadaeth
Croesewir ceisiadau gan ystod eang o grwpiau neu sefydliadau cydnabyddedig, gan gynnwys busnesau bach, mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol a grwpiau diwylliannol a threftadaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23.59pm ar 23 Tachwedd 2025.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Back the Best of British - Airbnb.
Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru. Gall bod yn berchen ar eich busnes twristiaeth eich hun a'i redeg fod yn werth chweil.
P'un ai eich bod yn meddwl am ddechrau busnes twristiaeth newydd, eisoes wedi cymryd y camau cyntaf neu eisiau tyfu eich busnes presennol, gallwn eich helpu gyda chyllid ar gyfer prosiectau newydd neu rai sy'n bodoli’n barod, cynlluniau graddio sêr ansawdd ar gyfer llety ac atyniadau i dwristiaid, a hyrwyddo eich busnes: Cefnogi chi | Diwydiant.