Yn dilyn ymgysylltiad cryf â’r sector a diddordeb mawr yn ein cronfa addasu i’r tywydd Blwyddyn Croeso, rydym yn lansio cam olaf sef y trydydd cam, i gefnogi busnesau twristiaeth canolig eu maint (50–250 o weithwyr). Mae’r rownd ddiweddaraf hon yn sicrhau bod busnesau o bob maint yn y diwydiant yn cael cyfle i wella eu cynnig.
Mae grantiau rhwng £5,000 a £20,000 ar gael i gefnogi'r gwaith o osod mesurau sy’n gwarchod rhag y tywydd, ynghyd ag offer a chyfleusterau sy'n cynnig profiadau gwell ymhob tywydd fel:
- Canopïau, pergolas, neu seddi wedi'u gorchuddio
- Llwybrau cerdded wedi'u gorchuddio neu lochesi i ymwelwyr
- Llwybrau sglodion pren neu raean
- Lleiniau caled ar gyfer meysydd parcio
- Meysydd chwarae dan do
Gallwch gyflwyno un cais fesul cwmni (uchafswm o ddau os ydych yn berchen ar fwy nag un cwmni neu fusnes).
Y dyddiad cau ar gyfer y rownd hon yw 5yp, 1 Rhagfyr 2025.
Gwnewch gais nawr: Cyllid | Cefnogi chi | Diwydiant Croeso Cymru.