Mae dau brosiect gwynt ar y môr yng Nghymru wedi sicrhau cytundebau yn y caffaeliad diweddaraf gan Lywodraeth y DU, gan nodi cam sylweddol ymlaen ar gyfer uchelgeisiau ynni adnewyddadwy Cymru a dod â miloedd o swyddi newydd.
Mae prosiect gwynt sefydlog Awel y Môr yng ngogledd Cymru a’r prosiect gwynt arnofiol Erebus oddi ar arfordir Sir Benfro wedi derbyn cytundebau drwy’r rownd ddyrannu Contractau am Wahaniaeth.
Disgwylir i’r prosiectau ddarparu manteision economaidd sylweddol i Gymru. Mae datblygiad Awel y Môr ar ei ben ei hun yn debygol o greu tua 2,000 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu, ynghyd â 50 o swyddi ychwanegol i gefnogi’r prosiect gyda RWE. Disgwylir i brosiect Erebus gefnogi dros 600 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a 500 o swyddi drwy’r gadwyn gyflenwi.
Bydd prosiect Erebus yn helpu i sefydlu Cymru fel arweinydd ym maes y diwydiant gwynt arnofiol sy’n dod i’r amlwg.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Croeso i gytundebau gwynt ar y môr sy’n dod â miloedd o swyddi i Gymru - Prif Weinidog | LLYW.CYMRU.