Newyddion

Croeso i feicwyr: Cronfa Gyfalaf Beicio

Beddgelert on the Brailsford Way North Wales Wales

Bydd Cronfa Croeso i Feicwyr yn cefnogi prosiectau ledled Cymru sy'n gwella seilwaith a chyfleusterau beicio, gan helpu i dyfu twristiaeth feicio, rhoi hwb i economïau lleol a chreu etifeddiaeth barhaol o gymal hanesyddol Cymreig y Tour de France yn 2027.

Bydd y Gronfa Croeso i Feicwyr yn helpu i wneud Cymru’n gyrchfan fwy deniadol ar gyfer beicio. 

Bydd yn cefnogi profiadau ymwelwyr a hybiau ar gyfer beicwyr ymroddedig ac ymwelwyr sy’n dewis beicio fel rhan o’u hymweliad.

Bydd y gronfa hon yn agored i:

  • Awdurdodau Lleol
  • Awdurdodau'r Parc Cenedlaethol

Cronfa gyfalaf yw hon. Nid yw costau refeniw yn gymwys.

  • Cyfanswm y grant sydd ar gael yw £100,000; fodd bynnag, gall Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gyflwyno mwy nag un Datganiad o Ddiddordeb (EOI).
  • Y gyfradd ymyrraeth uchaf yw 80%
  • Nid oes isafswm grant

Y dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb yw 1pm ddydd Gwener, 7 Awst 2026.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Croeso i Feicwyr | Diwydiant.

Delwedd © Hawlfraint y Goron 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.