Newyddion

Confensiwn Pan-Ewro Môr y Canoldir ar Reolau Tarddiad (PEM)

Transport manager and shipping containers

Mae'r Adran Busnes a Masnach (DBT) yn gofyn am eich barn ar effeithiau posibl petai’r DU yn ymuno â'r Confensiwn Pan-Ewro Môr y Canoldir ar Reolau Tarddiad (PEM).

Mae'r PEM yn gytundeb amlochrog rhwng 25 o bartïon contractio. Mae'r partïon hyn yn cynnwys yr UE, gwledydd y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd (EFTA) fel y Swistir a Norwy, yr Aifft, Twrci, ac Wcráin gan gynnwys eraill. Mae'r Confensiwn yn sefydlu rheolau tarddiad (RoO) cyffredin ymhlith ei aelodau i helpu i hwyluso masnach a chefnogi integreiddio cadwyni cyflenwi.

Mae Rheolau Tarddiad (RoO) yn un o'r prif rwystrau i gynyddu masnach mewn nwyddau. Rheolau Tarddiad yw'r meini prawf a ddefnyddir i bennu 'cenedligrwydd economaidd' cynnyrch. Maent yn diffinio ble y gwnaed cynnyrch (yn hytrach nac o ble y'i cludwyd) ac, o ganlyniad, a yw mewnforion ac allforion yn gymwys ar gyfer cyfraddau tariff ffafriol mewn cytundebau masnach. Fodd bynnag, gall fod yn anodd i fusnesau ledled y byd lywio drwyddynt. Gall gwahanol ddulliau o ran Rheolau Tarddiad rhwng gwahanol wledydd a rhwng gwahanol gytundebau masnach olygu fod busnesau yn gorfod dilyn clytwaith cymhleth o reolau a gwaith papur . Gellir lleihau hyn pan fydd bloc o wledydd yn alinio eu dull o weithredu ar faterion o'r fath. Dyna'n union y mae'r PEM yn ei wneud ar draws cyfandir Ewrop, Gogledd Affrica a rhannau o'r Dwyrain Canol.

Mae DBT yn ceisio deall mewnbwn busnesau a phartneriaid ar y cyfleoedd a'r risgiau masnach a allai godi petai’r DU yn ymuno â PEM.

Mae gan DBT ddiddordeb ym marn a phrofiadau busnesau o bob maint a rhanbarth ar draws pob sector sy'n masnachu nwyddau, yn enwedig os ydynt yn masnachu nwyddau gydag aelodau PEM.

Mae’r alwad hon am dystiolaeth yn cau am 11:59pm ar 15 Rhagfyr 2025: Pan-Euro Mediterranean Convention on Rules of Origin (PEM) - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.