Mae Aelodau'r Senedd wedi pasio rheoliadau i barhau â'r polisi isafbris am alcohol ac i godi'r isafbris uned o 50c i 65c, gan ei wneud yn gyson â’r gyfradd yn yr Alban.
Mae'r isafbris am alcohol wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau, drwy leihau'r defnydd o alcohol ymhlith yfwyr peryglus a niweidiol.
Cafodd yr isafbris uned ei gyflwyno yng Nghymru yn wreiddiol ym mis Mawrth 2020 pan ddaeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i rym. Roedd y Ddeddf yn cynnwys cymal machlud, a oedd yn golygu y byddai'r isafbris uned wedi dod i ben ar 1 Mawrth 2026, pe na bai'r Senedd wedi pleidleisio i estyn y polisi.
Bydd y rheoliadau newid prisiau yn dod i rym ar 1 Hydref 2026.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Y Senedd yn pasio rheoliadau newydd i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yng Nghymru | LLYW.CYMRU.