Newyddion

Cod ymarfer newydd ar rannu data

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi cod ymarfer newydd ar rannu data, sy’n darparu canllawiau clir i sefydliadau a busnesau ar sut i rannu data yn gyfreithlon.

Mae gan yr ICO adnoddau a chymorth i fusnesau hefyd, sy’n cynnwys:

  • chwalu coelion am rannu data
  • gwybodaeth sylfaenol y cod rhannu data
  • cwestiynau cyffredin ar rannu data
  • astudiaethau achos
  • rhestr wirio rhannu data
  • templedi ffurflen gwneud cais i rannu data a ffurflen penderfyniadau
  • rhannu data personol gyda phecyn cymorth gan awdurdod gorfodi’r gyfraith

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr ICO.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.