Newyddion

Cod Ymarfer Gwasanaethau yn dod i rym

People looking at a lap top.

Daw Cod Ymarfer gwasanaethau wedi'i ddiweddaru'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) i rym ar 5 Awst 2026, ar ôl derbyn cymeradwyaeth weinidogol y DU a'i osod gerbron Senedd y DU, yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar 16 Ebrill 2025 y dylid dehongli'r diffiniad o ryw yn Neddf Cydraddoldeb 2010 fel rhyw fiolegol.

Mae'r Cod yn darparu canllawiau ymarferol ar sut mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol i wasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Mae'n egluro'r camau y dylent eu cymryd i sicrhau nad yw pobl yn cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn, eu aflonyddu na'u herlid mewn perthynas â'r nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf. 

Nid yw'r Cod wedi'i ddiweddaru yn gwneud cyfraith newydd nac yn creu unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol newydd. Mae'n darparu canllawiau cyfreithiol cywir, diduedd a chyfoes ar y gyfraith bresennol: i helpu pawb i'w deall, i sefydliadau gydymffurfio â hi, i gynghorwyr cyfreithiol ei dehongli a'i chynghori, ac i lysoedd a thribiwnlysoedd ei chymhwyso. 

I gefnogi hyn, mae'r EHRC wedi cyhoeddi'r canllawiau statudol ar ei wefan: Cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau | EHRC.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.