
Mae llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ag ymyriad dwy ran i fynd i'r afael â risgiau seiberddiogelwch i ddeallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn cynnwys datblygu Cod Ymarfer gwirfoddol a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu i greu safon fyd-eang yn y Sefydliad Safonau Telathrebu Ewropeaidd sy'n gosod gofynion diogelwch sylfaenol.
Mae'n nodi sut y gall sefydliadau sy'n defnyddio AI amddiffyn eu hunain rhag ystod o fygythiadau seiber fel ymosodiadau AI a methiannau system.
Mae'r cod ymarfer yn seiliedig ar 13 egwyddor: codi ymwybyddiaeth o fygythiadau a risgiau; dylunio systemau AI ar gyfer diogelwch; gwerthuso bygythiadau a rheoli risgiau; galluogi cyfrifoldeb dynol dros systemau; adnabod, olrhain a diogelu asedau; diogelu seilwaith; diogelu’r gadwyn gyflenwi; dogfennu data, modelau ac ysgogiadau; cynnal profion a gwerthusiad priodol; cyfathrebu a sefydlu prosesau gyda defnyddwyr terfynol ac endidau yr effeithir arnynt; cynnal diweddariadau a mesurau lliniaru diogelwch rheolaidd; monitro ymddygiad y system; a sicrhau gwaredu priodol ar ddata a modelau.
Mae'r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg yn pwysleisio pwysigrwydd gweithredu rhaglenni hyfforddiant seiberddiogelwch sy'n canolbwyntio ar agweddau bregus AI, datblygu cynlluniau adfer yn dilyn digwyddiadau seiber posibl, a chynnal asesiadau risg cadarn.
Mae'r cod yn wirfoddol, ond bydd yn sail i safon fyd-eang newydd ar gyfer AI diogel trwy'r Sefydliad Safonau Telathrebu Ewropeaidd.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Code of Practice for the Cyber Security of AI - GOV.UK