Gallwch bellach wneud cais i fod yn rhan o’r garfan nesaf o Glystyrau Creadigol yn ail rownd gomisiynu portffolio llwyddiannus Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).
Bydd dros £27 miliwn o gyllid yn cael ei rannu rhwng yr ymgeiswyr llwyddiannus, gyda’r dyfarniadau mwyaf posibl i brosiectau unigol yn agos i £7 miliwn.
Gwnewch gais am gyllid i gyflwyno Clwstwr Diwydiannau Creadigol newydd.
Rhaid i bob clwstwr:
- geisio datrys her glir mewn is-sector neu ardal ddaearyddol benodol, neu'r ddau
- canolbwyntio ar greu cynnyrch, gwasanaethau neu brofiadau newydd sydd â photensial masnachol
- Bydd yr AHRC yn ariannu 80% o'r gost economaidd lawn (FEC).
Bydd y cyllid yn para am bum mlynedd. Mae'n rhaid i chi fod wedi'ch lleoli mewn sefydliad ymchwil yn y DU sy'n gymwys i gael cyllid AHRC.
Mae hon yn broses dau gam. Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn y cam amlinellu yn cael gwahoddiad i ddatblygu cais llawn.
Y dyddiad cau yw 4pm ar 3 Mawrth 2026.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Creative Industries Clusters: round two: outline stage – UKRI.