Newyddion

Clybiau rhannu ceir di-allyriadau yn ehangu ledled Cymru

Deputy Minister for Transport Mark Hooper at the TrydaNi car sharing scheme in Aberystwyth

Mae TrydaNi yn caniatáu i yrwyr ledled Cymru ddefnyddio ceir trydan mewn ffordd sy'n fforddiadwy, yn gyfleus ac yn fuddiol i gymunedau lleol.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru gwerth £1 miliwn, mae'r cynllun ar gael i unigolion, busnesau a sefydliadau nid-er-elw, ac mae wedi tyfu i fwy na 500 o aelodau, gyda'r niferoedd yn cynyddu wrth i glybiau newydd agor.

Eleni mae TrydaNi wedi lansio clybiau yn Abertawe, Penygroes a'r Fenni, a bydd yn lansio clwb ym Mangor cyn bo hir hefyd. 

Ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2024, mae clwb Aberystwyth wedi tyfu i 99 o aelodau, sy'n rhannu mynediad at ddau gerbyd trydan, Vauxhall Combo Life Electric a Renault Zoe, sydd wedi'u lleoli ym maes parcio Ffordd y Gogledd yn Aberystwyth.

Mae'r cynllun yn arbennig o ddefnyddiol i bobl mewn ardaloedd gwledig, lle y gall darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus fod yn gyfyngedig a gall defnyddio car fod yn fwy hanfodol nag i'r rhai sy'n byw mewn trefi a dinasoedd.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Clybiau rhannu ceir di-allyriadau yn ehangu ledled Cymru | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.