Newyddion

Chwaraeon Cymru Grant Arbed Ynni

Energy efficiency

Grant o hyd at £25,000 i wneud gwelliannau arbed ynni, ar gyfer grwpiau cymunedol neu glybiau chwaraeon nid-er-elw yng Nghymru.

I wneud cais, rhaid i'ch prosiect fodloni'r canlynol:

  • cael ei gynnal yng Nghymru a bod ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru yn bennaf
  • ar gyfer adeilad yr ydych chi’n berchen arno neu y mae gennych chi brydles arno am o leiaf 7 mlynedd arall 
  • heb fod wedi cychwyn eto
  • cychwyn erbyn 31 Mawrth 2027
  • gorffen cyn pen 12 mis o gael y grant

Prosiectau a chyllid:

  • ffenestri a drysau newydd, gan gynnwys anghenion gwresogi
  • systemau gwresogi sy’n fwy ecogyfeillgar ac sy’n fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni
  • inswleiddio gwell (heb gynnwys gwaith strwythurol ar doeau)
  • paneli solar a batris storio
  • goleuadau LED a synwyryddion symud
  • systemau cynaeafu dŵr cynaliadwy

Mynegi diddordeb yn cau ar 5pm, 29 Mehefin 2026.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Grant Arbed Ynni | Sport Wales.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. Cymryd rhan: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.