
Gall grwpiau cymunedol ledled Cymru nawr wneud cais am grantiau o hyd at £25,000 gan Lywodraeth Cymru i wella neu ddatblygu cyfleusterau lleol.
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i wneud gwelliannau ffisegol i adeiladau neu brynu offer sydd o fudd i bobl leol. Y nod yw helpu i greu cyfleoedd tecach, atgyfnerthu rhwydweithiau lleol a chefnogi mannau sy'n dod â phobl at ei gilydd.
Ers 2015, mae'r rhaglen wedi ariannu bron i 500 o brosiectau, ac mae mwy na £70 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn mannau cymunedol ledled Cymru.
Un enghraifft ddiweddar yw Parc yr Esgob yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin, a dderbyniodd £300,000 tuag at y gost o adfer gardd furiog hanesyddol. Mae'r cyllid yn helpu i drawsnewid y safle yn lle croesawgar i bawb. Bydd y tŷ gwydr mwyaf yn dod yn ardal amlbwrpas ar gyfer gweithgareddau cymunedol, gan gynnwys sesiynau coginio iach sy'n defnyddio cynnyrch wedi'i dyfu yn yr ardd. Bydd y tai gwydr eraill yn cefnogi dysgu garddwriaethol a thyfu planhigion.
Mae ceisiadau bellach ar agor am grantiau o dan £25,000. Bydd grantiau mwy o hyd at £300,000 yn agor o 1 Hydref. Mae'r rhaglen ar gael i sefydliadau dan arweiniad cymunedol gan gynnwys elusennau cofrestredig, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais,dilynwch y ddolen hon: Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol | LLYW.CYMRU