
Yn dilyn llwyddiant Gwobrau Caru Ceredigion a gynhaliwyd am y tro cyntaf y llynedd, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal eto eleni yn 2025 gyda chategorïau newydd sbon.
Mae Gwobrau Caru Ceredigion yn gyfle i ddathlu cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau a phrosiectau cymunedol ac unigolion ar draws y sir.
Y categorïau eleni yw:
- Gwobr Mudiad Cymunedol
- Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion
- Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn
- Gwobr Entrepreneur Ifanc
- Gwobr Creu Dyfodol Lleol
- Gwobr Darganfod Ceredigion
- Gwobr Bwyd-Amaeth
- Gwobr Llwybr Llwyddiant
- Gwobr Manwerthu
- Gwobr Ceredigion a’r Byd
I fod yn gymwys am unrhyw gategori, rhaid i gymunedau a busnesau fod yn gweithredu neu fod â lleoliad corfforol yng Ngheredigion, gydag unrhyw weithgareddau perthnasol sy’n rhan o'r cais wedi'u cynnal rhwng 1 Tachwedd 2024 a 1 Rhagfyr 2025.
Mae ceisiadau ar gyfer y gwobrau nawr ar agor a gallwch gael gwybodaeth am y categorïau amrywiol, yn ogystal â gwybodaeth am sut i enwebu ac ymgeisio ar y wefan: Gwobrau Caru Ceredigion 2025 - Cyngor Sir Ceredigion.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw hanner nos ar 3 Tachwedd 2025.
Cynhelir y seremoni wobrwyo eleni yng Nghanolfan Lloyd Thomas, Campws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar nos Iau, 11 Rhagfyr 2025.