
Mae Grantiau Gwirfoddoli Cymru yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella gwirfoddoli yng Nghymru.
Mae'r cynllun yn cefnogi prosiectau sy'n creu profiadau gwirfoddoli ystyrlon, yn dileu rhwystrau i gymryd rhan ac yn gwneud gwahaniaeth parhaol mewn cymunedau.
Mae ail rownd Prif Grant Gwirfoddoli Cymru bellach ar agor i geisiadau.
Bydd cyllid o hyd at £30,000 y flwyddyn ar gael, gyda phrosiectau'n digwydd dros gyfnod o ddim mwy na dwy flynedd. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Hydref 2025 am 11.59 pm.
Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb ym Mhrif Gynllun Grant Gwirfoddoli Cymru, ewch i gynllun grantiau Gwirfoddoli Cymru - CGGC i ddarllen canllawiau llawn y cynllun neu cysylltwch â volwalesgrants@wcva.cymru.
Cynhelir sesiwn wybodaeth ar-lein ar 2 Medi 2025 am 10.30am. Dewiswch y ddolen ganlynol i gofrestru eich lle: Volunteering Wales Main Grant - information session.
Gellir gwneud ceisiadau drwy Borth Ceisiadau Amlbwrpas (MAP) Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). I gofrestru a gweld y cyfleoedd ariannu cyfredol sydd gan CGGC, ewch i CGGC MAP - Mewngofnodi.
Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld bod y busnesau maen nhw'n ymwneud â nhw’r un mor gysylltiedig ac yn gwneud yr un peth. Mae yna lawer o ffyrdd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol ac, ar yr un pryd, gadw’u cwsmeriaid yn hapus: Gweithio gyda'ch cymuned leol | Busnes Cymru.