Newyddion

Cefnogi Iechyd Meddwl yn y Gwaith: Gweminar BBaCh

Webinar with laptop

Gwahoddir busnesau bach a chanolig i ymuno â'r Adran Gwaith a Phensiynau ac Able Futures i ddysgu am y cymorth iechyd meddwl am ddim sydd ar gael drwy Wasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith.

Bydd y weminar yn trafod:

  • Beth yw Able Futures a sut mae'n cefnogi busnesau bach a chanolig drwy Wasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith a ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. 
  • Sut y gall gweithwyr, prentisiaid ac unigolion hunangyflogedig gael mynediad at hyd at naw mis o gymorth cyfrinachol gan Hyfforddwr Iechyd Meddwl. 
  • Y cymorth sydd ar gael i gyflogwyr, gan gynnwys adnoddau yn y gweithle, arweiniad a chymorth Rheolwr Cyfrifon Busnes. 
  • Sut y gall Able Futures helpu sefydliadau i godi ymwybyddiaeth o gymorth iechyd meddwl yn y gweithle. 
  • Y camau ymarferol y gall busnesau eu cymryd i gael mynediad i'r gwasanaeth a chefnogi eu gweithlu. 

Pam ddylech chi ddod?

Mae iechyd meddwl a lles yn parhau i fod yn ystyriaethau pwysig i lawer o fusnesau. Bydd y weminar yma yn cyflwyno gwasanaeth am ddim sy'n cynnig cymorth ymarferol a chyfrinachol i helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl yn y gwaith. Ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Dyddiadau'r weminar: 

Os ydych yn hunangyflogedig neu'n berchennog busnes, dylech gymryd camau i ofalu am eich iechyd meddwl eich hunan ac am iechyd meddwl eich gweithwyr. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (llyw.cymru)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.