Newyddion

Cefnogi gwynt ar y môr i bweru twf economaidd a chreu swyddi

Off shore wind turbines

Nod cynllun gweithredu cynhwysfawr newydd yw gwneud y mwyaf o botensial gwynt ar y môr Cymru a sicrhau manteision economaidd hirdymor.

Daeth grŵp gorchwyl a gorffen, a sefydlwyd yn gynharach eleni, ag arweinwyr o sectorau ledled Cymru at ei gilydd – gan gwmpasu datblygwyr, porthladdoedd, gweithgynhyrchu a sgiliau.

Eu nod oedd nodi'r hyn sydd angen ei wneud mewn partneriaeth ag Ystâd y Goron, y diwydiant a phartneriaid cymdeithasol i sicrhau gwerth economaidd a chymdeithasol parhaol i Gymru.

Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad ym maes prosiectau gwynt ar y môr, gan gynnal y datblygiadau gwynt ar y môr sefydlog cyntaf yng Ngogledd Cymru.

Heddiw, mae gan Gymru lif sylweddol o fwy na 15 GW o brosiectau gwynt ar y môr o amgylch ei harfordir, yn nyfroedd Cymru, Lloegr ac Iwerddon.

Mae'r sector yn gyfle sylweddol, ac yn cynnig y posibilrwydd o £4.8bn i fusnesau yng Nghymru a dros 3,000 o swyddi.

Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen bellach wedi nodi argymhellion allweddol, gan gynnwys:

  • Sefydlu fforwm erbyn hydref 2025 lle mae datblygwyr prosiectau, y llywodraeth a phartneriaid allweddol eraill yn galluogi gwell cydlynu rhwng rhanddeiliaid, gan helpu i wneud y mwyaf o fanteision lleol o ffermydd gwynt newydd yn y Môr Celtaidd.
  • Symleiddio'r broses gynllunio a chaniatâd, lleihau oedi a darparu map ffordd clir o ofynion i ddatblygwyr trwy well cydlynu rhwng partïon i gyflymu amserlenni prosiectau'n sylweddol a lleihau costau.
  • Gweithredu cymorth wedi'i dargedu i fusnesau Cymru fynd i mewn i'r gadwyn gyflenwi gwynt ar y môr, gyda ffocws arbennig ar gysylltu busnesau bach a chanolig â chwmnïau mwy i drawsnewid y potensial hwn sydd heb ei ddefnyddio, yn gyfleoedd busnes gwirioneddol, yn enwedig mewn meysydd sy'n gryf ar hyn o bryd, fel rheoli prosiectau a pheirianneg.
  • Cydlynu mentrau datblygu sgiliau ar draws sefydliadau addysgol i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau sector-benodol mewn meysydd fel technoleg tyrbinau gwynt a pheirianneg drydanol foltedd uchel fel y gall cymunedau lleol gael mynediad at y swyddi o ansawdd uchel a grëwyd.
  • Integreiddio sectorau dur a choncrid Cymru â datblygiad gwynt ar y môr, yn enwedig ar gyfer sylfeini ffermydd gwynt arnofiol ar y môr ac is-strwythurau.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Cefnogi gwynt ar y môr i bweru twf economaidd a chreu swyddi | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.