Newyddion

Cefnogaeth i weithwyr elwa yn sgil miloedd o swyddi pŵer glân

Solar panels engineer

Mae buddsoddiadau sgiliau rhanbarthol i helpu gweithwyr i gael mynediad at filoedd o swyddi a 'phasbort sgiliau' wedi mynd yn fyw.

Bydd gweithwyr ledled y DU yn cael eu cefnogi gyda rhaglenni hyfforddi a gefnogir gan Lywodraeth y DU fel y gallant elwa yn sgil miloedd o gyfleoedd swyddi newydd yn y sector ynni glân.

Mae Sir Benfro, Aberdeen, Swydd Gaer a Swydd Lincoln i gyd wedi'u nodi fel rhanbarthau twf allweddol ar gyfer ynni glân, gyda diwydiannau gwynt ar y môr, niwclear a solar llewyrchus. Bydd partneriaid lleol yn cael cyllid i nodi'r gefnogaeth sgiliau sydd ei hangen yn eu hardal i gyflenwi pŵer glân erbyn 2030 - a fydd yn amddiffyn cartrefi a busnesau rhag marchnadoedd tanwydd ffosil ansefydlog am byth.

Gallai cyllid fynd tuag at ganolfannau hyfforddi, cyrsiau neu gynghorwyr gyrfa newydd - gan gefnogi pobl leol i fanteisio ar gyfleoedd mewn diwydiannau fel weldio, peirianneg drydanol, ac adeiladu. Bydd gweithwyr yn gallu creu cyfrif i gael mynediad at y pedwar llwybr gyrfa sydd ar gael ar hyn o bryd, gan eu helpu i ganfod ble mae eu cymwysterau presennol yn cael eu cydnabod.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Support for workers to benefit from thousands of clean power jobs - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.