
Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar y bwriad i gau tri chynllun cyllido amaethyddol yng Nghymru erbyn diwedd 2025.
Y rhain yw:
- Cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau etifeddol yr UE (F&VA)
- Cynllun Ymyrraeth Gyhoeddus (PI)
- Cynllun Cymorth Storio Preifat (PSA)
Y nod yw cau'r cynlluniau hyn yng Nghymru ac archwilio sut i gefnogi'r sector garddwriaeth yng Nghymru yn well yn y dyfodol.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 25 Awst 2025: Cau'r Cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau a’r cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat yng Nghymru | LLYW.CYMRU