
Er gwaethaf holl ymdrechion Llywodraeth Cymru i gadw Pont Menai ar agor i geir a beiciau modur, mae adborth gan UK Highways A55 ynghylch yr heriau o ran gorfodi wedi arwain at y penderfyniad anodd i gau'r bont dros dro am 14:00 ddydd Sadwrn 4 Hydref 2025.
Mae’r penderfyniad hwn wedi'i wneud yng ngoleuni ymchwiliadau diweddar a gynhaliwyd fel rhan o waith cam dau sydd wedi gweld bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau o dan y bont.
Mae trefniadau ar waith ar gyfer cerbydau gwasanaethau brys rhag ofn y bydd gwyntoedd cryfion yn effeithio ar Bont Britannia.
Cliciwch ar y dolenni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: