
Mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau statudol wedi'u diweddaru i fusnesau ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi a sut i roi gwybod am hyn yn dryloyw mewn datganiadau caethwasiaeth fodern.
O dan Adran 54 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, rhaid i fusnesau sy’n gweithredu yn y DU ac sydd â throsiant o £36 miliwn neu fwy roi gwybod yn flynyddol am y camau y maent wedi’u cymryd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yn eu gweithrediadau a’u cadwyni cyflenwi byd-eang.
Rhaid i fusnesau sicrhau bod eu datganiad wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd, wedi'i lofnodi gan gyfarwyddwr a'i fod ar gael ar hafan eu gwefan. Dylent gyhoeddi'r datganiad o fewn 6 mis i ddiwedd eu blwyddyn ariannol.
Pwrpas y darpariaethau 'tryloywder mewn cadwyni cyflenwi' hyn yw caniatáu craffu gan ddefnyddwyr, buddsoddwyr a chymdeithas sifil. Er mwyn gwella tryloywder ymhellach, ym mis Mawrth 2021 lansiodd Llywodraeth y DU y gofrestrfa datganiadau caethwasiaeth fodern i ddod â datganiadau caethwasiaeth fodern at ei gilydd ar un llwyfan.
Datblygwyd y canllawiau newydd gyda chefnogaeth y Fforwm Llafur Dan Orfod, grŵp amrywiol o randdeiliaid o fyd busnes, cymdeithas sifil, y byd academaidd ac undebau llafur. Mae'r canllawiau diwygiedig yn canolbwyntio ar gamau ymarferol y gall busnesau eu cymryd i atal, canfod ac ymateb yn effeithiol i gaethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi.
Cynghorir pob sefydliad sy'n cyhoeddi datganiadau caethwasiaeth fodern i adolygu'r canllawiau newydd, y gellir dod o hyd iddynt drwy ddewis y ddolen ganlynol: Slavery and human trafficking in supply chains: guidance for businesses - GOV.UK