Newyddion

Canllawiau Martyn’s Law wedi'u cyhoeddi i helpu busnesau

Evacuation planning

Canllawiau newydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU i helpu sefydliadau a busnesau i baratoi ar gyfer bygythiadau terfysgol ac amddiffyn bywydau.

Mae'r canllawiau yn nodi camau clir i fusnesau. Mae hyn yn cynnwys ar gyfer safleoedd llai fel siopau a bwytai gyda 200-799 o bobl, er mwyn sicrhau bod llwybrau gwacáu ar waith, bod staff yn gwybod sut i weithredu cyfyngiadau’n gyflym yn eu hadeilad, a bod staff yn gwybod sut i gyfathrebu'n gyflym â'u cwsmeriaid pe bai ymosodiad yn digwydd.

Bydd yn ofynnol i safleoedd a digwyddiadau mwy fel cyngherddau a stadia chwaraeon, lle bydd 800 neu fwy o bobl yn bresennol, gymryd camau pellach i leihau eu bregusrwydd i weithredoedd terfysgol – megis cael teledu cylch cyfyng, polisïau chwilio bagiau, neu gynnal gwiriadau cerbydau lle bo hynny'n briodol.

Bydd y ddeddf yn dod i rym ar ôl cyfnod gweithredu o 24 mis, o leiaf, ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol, gan roi amser i sefydliadau ddeall eu rhwymedigaethau newydd a pharatoi.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Terrorism (Protection of Premises) Act 2025 - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.