Nod Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) yw helpu Mentrau Bach a Chanolig (BBaChau) y DU i ddeall eu hanghenion yswiriant yn well a mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth.
Pan fydd pethau'n mynd o'i le, gall diffyg yswiriant, neu yswiriant annigonol, fod yn drychinebus.
Mae canllaw’r ABI, What every business needs to know, yn nodi camau syml i berchnogion busnes eu hystyried wrth drefnu ac adnewyddu eu polisïau. Ochr yn ochr ag esboniadau am y cynhyrchion y mae'n ofynnol yn gyfreithiol i fusnesau eu cael neu y gallai fod eu hangen arnynt, a chyngor ar sut i ddeall gofynion yswiriant, mae'r canllaw wedi'i anelu at wella eu gwydnwch ar gyfer digwyddiadau annisgwyl.
Wedi'i ddatblygu ar y cyd â phrif gwmnïau yswiriant seiber a phartneriaid llywodraeth y DU, mae'r ABI hefyd wedi cyhoeddi canllawiau newydd i helpu sefydliadau amddiffyn eu hunain yn well rhag bygythiadau seiber cynyddol: From prevention to resilience - The ABI's good practice guidance on cyber resilience.
I gael rhagor o ganllawiau ac adroddiadau, dewiswch y ddolen ganlynol: ABI Guides & Reports.