
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau i’r diwydiant ar ddarparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd. Y bwriad yw annog y diwydiant i ddarparu gwybodaeth am alergenau bwyd yn ysgrifenedig yn y sector y tu allan i’r cartref, er enghraifft bwytai, caffis, delis, stondinau marchnad a siopau tecawê.
Nod y canllawiau yw cefnogi busnesau bwyd wrth ddarparu gwybodaeth am yr 14 o alergenau bwyd i’w cwsmeriaid, gan helpu i gadw defnyddwyr yn ddiogel. Mae’r canllawiau’n berthnasol i fusnesau bwyd sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw neu fwyd ‘rhydd’, a hynny wyneb yn wyneb neu drwy werthiannau ar-lein.
Mae’r canllawiau diweddaredig yn cynnwys yr egwyddorion canlynol:
- dylai gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau fod ar gael bob amser ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw ochr yn ochr â sgwrs rhwng staff gweini a chwsmeriaid am eu gofynion o ran alergenau
- enghreifftiau o sut i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau
- adnoddau rhad ac am ddim i gefnogi busnesau i weithredu’n unol â’r canllawiau, fel eiconau alergedd, matrics alergenau a phoster alergedd newydd y gall busnesau bwyd ei lawrlwytho a’i ddefnyddio ar eu deunyddiau eu hunain (er enghraifft bwydlenni a gwefannau)
Mae’r canllawiau diweddaraf hyn yn berthnasol i fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch y ddolen ganlynol: Canllawiau diweddaredig i’r diwydiant ar roi gwybodaeth am alergenau bwyd yn y sector y tu allan i’r cartref | Asiantaeth Safonau Bwyd