
Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch dros bobl sy'n gweithio gartref ag ar gyfer unrhyw weithiwr arall.
Mae canllawiau gweithio gartref yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnwys manylion camau syml ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch gweithwyr cartref.
Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod rheoli risgiau ac asesu risg yn cynnwys gweithwyr cartref, a ddylai ystyried:
- straen ac iechyd meddwl gwael
- defnyddio offer fel cyfrifiaduron a gliniaduron yn ddiogel
- yr amgylchedd gwaith
Mae yna hefyd ganllawiau penodol i weithwyr cartref ar reoli eu hiechyd a'u diogelwch, sy'n cynnwys fideo ac awgrymiadau ymarferol ar ystum da wrth weithio gydag offer sgrin arddangos.