
Mae Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr wedi cyhoeddi canllawiau newydd a ffurflen ar-lein wedi'i diweddaru i helpu unrhyw un sydd eisiau codi pryder am elusen.
Mae'r canllawiau 'Codi pryder gyda'r Comisiwn Elusennau' (CC47) yn nodi pryd i godi pryderon am elusen gyda'r Comisiwn yn ogystal â'r hyn y gall y Comisiwn ei wneud neu na all ei wneud o fewn ei gylch gorchwyl o helpu elusennau yng Nghymru a Lloegr i fod yn atebol a sicrhau eu bod yn cael eu rhedeg yn dda ac yn bodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol.
Mae'r canllawiau hefyd yn ymdrin â ble a sut y gall ac y bydd y Comisiwn yn gweithredu a sut mae'n blaenoriaethu'r pryderon mwyaf difrifol sy'n cyflwyno risg o niwed sylweddol i, neu gam-drin, elusennau, eu buddiolwyr neu asedau neu i ymddiriedaeth a hyder yn y sector.
Nod y fersiynau diweddaraf o ganllawiau a ffurflenni’r Comisiwn yw helpu pobl i ddod o hyd i'r llwybr mwyaf priodol ar gyfer codi unrhyw bryderon, gan nodi’n glir hefyd pryd mae'n annhebygol y bydd yn gallu gweithredu.
Mae fersiwn well o’r ffurflen ‘codi pryder’ ar-lein ar gael ar gov.uk ar gyfer aelodau’r cyhoedd, sy’n dal i ganiatáu atodi tystiolaeth, ac mae bellach yn rhoi cyfeiriadau newydd i’w gwneud hi’n haws i ymddiriedolwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr elusen godi pryderon yn y ffordd gywir trwy lwybrau amgen ar gyfer chwythu’r chwiban, rhoi gwybod am ddigwyddiadau difrifol neu faterion o arwyddocâd perthnasol.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Updated guide to raising concerns about a charity - GOV.UK