Newyddion

Camau newydd i fynd i'r afael ag aflonyddu yn y gwaith

Woman with hand extended - stop

Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn cynnwys mesurau sy'n diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn cryfhau amddiffyniadau rhag aflonyddu.

Rhaid i gyflogwyr bellach gymryd pob cam rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar eu staff cyn iddo ddigwydd.

Gallai hyn gynnwys mesurau ymarferol fel cael polisi adrodd clir neu hyfforddi staff ar ymdrin â sefyllfaoedd anodd.

Mae amddiffyniadau hefyd wedi'u cryfhau ar gyfer gweithwyr sy'n wynebu pob math o aflonyddu gan drydydd partïon. Gan fynd y tu hwnt i amddiffyniadau ar gyfer aflonyddu rhwng cydweithwyr, bydd hyn bellach yn berthnasol i gleientiaid a chwsmeriaid hefyd.

P'un ai yw hynny'n deithiwr sy'n aflonyddu ar yrrwr bws, yn gwsmeriaid yn bygwth gweinydd mewn bwyty, neu’n weithiwr siop sy'n gorfod ymdrin â cham-drin gan gwsmeriaid, bydd diwygiadau’n sicrhau na chaiff ymddygiad annerbyniol ei ystyried yn rhan o'r swydd.

Daeth y mesurau newydd i rym ar 30 Hydref 2026.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i hawliau yn y gweithle o dan y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth i’w cael yma: Workplace sexual harassment and third-party harassment.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.