Archwiliwch sut gallwch chi ddatblygu gweithle sy'n gysylltiedig â natur i hybu llesiant gweithwyr a gwella cynhyrchiant busnes.
Cafodd Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle ei gyd-gynllunio gan RSPB Cymru a Chymru Iach ar Waith yn dilyn gweithdai gyda chyflogwyr. Bydd y gweithgareddau syml sydd wedi’u cynnwys yn eich helpu i gysylltu â natur ac maent wedi’u cynllunio i gefnogi a gwella eich llesiant a’ch iechyd.
Mae tystiolaeth yn dangos y gall cysylltu â natur wneud y canlynol:
- lleihau teimladau o straen a gorbryder
- gwella ein hwyliau
- ein helpu i ymlacio
- lleihau pwysedd gwaed
- gwella iechyd corfforol
- gwella ansawdd cwsg
- gwella hyder a hunan-barch
- helpu i leihau unigrwydd
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle - Cymru Iach ar Waith.
Mae cael gweithwyr iach yn beth da i fusnes – maen nhw’n fwy brwdfrydig, mwy cynhyrchiol a llai tebygol o gymryd amser i ffwrdd. Darllenwch y canllaw Busnes Cymru ar ‘Creu Gweithle Cadarnhaol’ I gael ragor o wybodaeth.