Mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, yn lansio Fix-it-February mewn caffi trwsio dros dro yng Nghaerdydd.
Mae'r gwasanaeth trwsio am ddim ar gael drwy gydol y flwyddyn ac mae bellach wedi arbed dros filiwn cilogram o allyriadau carbon deuocsid. Mae hyn yn cyfateb i gar petrol arferol yn teithio 11.2 miliwn o filltiroedd neu'n gyrru hyd yr A470 fwy na 60,000 o weithiau.
Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru o tua £14 miliwn, drwy Gronfa'r Economi Gylchol, wedi helpu i sefydlu mwy na 130 o gaffis trwsio ledled y wlad, lle mae gwirfoddolwyr medrus yn trwsio popeth o sipiau sydd wedi torri i dostwyr diffygiol.
Mae eisoes gan Gymru drefniadau o'r radd flaenaf ar gyfer ailgylchu gwastraff trefol, ac mae'r strategaeth Mwy nag Ailgylchu yn nodi sut y bydd y wlad yn symud ymhellach i fyny'r hierarchaeth gwastraff i greu diwylliant lle mae trwsio ac ailddefnyddio'n dod yn ail natur.
Mae caffis trwsio'n darparu manteision lluosog i gymunedau Cymru. Maen nhw'n lleihau gwastraff, yn helpu aelwydydd i arbed arian, yn creu cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau cymdeithasol ac yn cefnogi datblygu sgiliau. Mae dysgu trwsio yn hyrwyddo dysgu gydol oes ac yn cyfrannu at agenda twf gwyrdd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Benthyg Cymru, rhwydwaith o lyfrgelloedd lle gall pobl fenthyg eitemau yn hytrach na'u prynu.
Mae prosiectau ailddefnyddio cymunedol yn gweithredu ledled Cymru, o oergelloedd cymunedol yn Sir Fynwy i weithgareddau ailddefnyddio mewn canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yng Ngheredigion a Sir Benfro.
Am ragor o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol: