
Ystyr gwiriad cydymffurfio yw pan fydd CThEF yn gwirio’ch sefyllfa dreth er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud y canlynol:
- talu’r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir
- hawlio’r lwfansau a’r rhyddhadau treth cywir
Yn ogystal, mae’n sicrhau bod y system dreth yn gweithredu’n deg ac yn effeithiol.
Defnyddiwch yr offeryn ar-lein os yw CThEF wedi cysylltu â chi ynghylch gwiriad cydymffurfio. Bydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r arweiniad, fideos a’r wybodaeth gywir ynglŷn â’r canlynol:
- deall gwiriadau cydymffurfio
- yr hyn i’w wneud os yw CThEM wedi gwneud cais am wybodaeth neu ddogfennau gennych
- cael cymorth ychwanegol ar sail eich iechyd neu eich amgylchiadau personol
- penodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich rhan
- yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â phenderfyniad CThEF
- talu asesiad treth neu gosb
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Cael help os yw CThEF yn cysylltu â chi ynghylch gwiriad cydymffurfio - GOV.UK