Newyddion

Cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu uwch: cystadleuaeth ariannu busnesau bach a chanolig sydd â photensial twf uchel

automotive industry

Gall mentrau micro, bach neu ganolig eu maint sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 miliwn ar gyfer prosiectau cyn-fasnacheiddio.

Mae Innovate UK am ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar ddarparu technolegau trawsbynciol ar draws y chwe diwydiant arloesol a ddiffinnir yng nghynllun y sector Gweithgynhyrchu Uwch, gan gynnwys y sectorau canlynol:

  • Modurol
  • Batris
  • Awyrofod
  • Y Gofod
  • Deunyddiau Uwch
  • Technoleg Amaethyddol

Mae'r gystadleuaeth yn cau am 11am ar 22 Ebrill 2026.

Rhaid i'ch cynnig ganolbwyntio ar gyflawni gwelliant yn effeithlonrwydd adnoddau neu wydnwch cadwyni cyflenwi diwydiannau arloesol y Cynllun Sector Gweithgynhyrchu Uwch.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Advanced Manufacturing Supply Chains: Potential High Growth SMEs - Innovate UK Business Connect.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.